Adroddiad Blynyddol Grŵp Trawsbleidiol

Rhagfyr 2015

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol

Cadeirydd: Russell George

Ysgrifenyddiaeth: Ofcom (Elinor Williams - Rheolwr Materion Rheoleiddio a Nia Thomas - Ymgynghorydd Materion Rheoleiddio)

1.    Aelodaeth y Grŵp a deiliaid swyddi.

 

Russell George AC (Cadeirydd)

Alun Ffred Jones AC

Aled Roberts AC

David Rees AC

Rhodri Williams - Ofcom

Alex Williams - Ofcom

Elinor Williams - Ofcom

 

  1. Cyfarfodydd blaenorol y Grŵp

 

Cyfarfod 1.

 

Dyddiad: 23 Mehefin 2015      

Yn bresennol: Ofcom  - Rhodri Williams, Elinor Williams, Nia Thomas, Neil Stock

 Aelodau’r Cynulliad  - Alun Ffred Jones

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ffurfiol ac ailetholwyd Russell George yn Gadeirydd. Eiliwyd hyn gan Alun Ffred Jones AC ac aelodau o Ofcom. Cytunwyd y byddai Ofcom yn darparu ysgrifenyddiaeth i’r Grŵp.

Rhoddodd Neil Stock (Pennaeth Polisi Radio, Ofcom) gyflwyniad ar ddyfodol radio cymunedol a masnachol yng Nghymru. Yna, cafwyd sesiwn holi ac ateb fywiog.

 

Cyfarfod 2.

 

Dyddiad: 29 Medi 2015

Yn bresennol: Ofcom -  Rhodri Williams, Elinor Williams, Nia Thomas, Liz Nash a Jane Rumble

 

Aelodau’r Cynulliad -  Alun Ffred Jones, Keith Davies, Suzy Davies, David Rees, Janet Haworth, Aled Roberts

Cynrychiolwyr o Get Safe Online, Deryn, ITV, S4C, Town and Country Broadcasting, Pwyllgor Ymgynghorol Ofcom dros Gymru, NFU Cymru

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

Cynhaliodd Ofcom ei ddigwyddiad blynyddol i randdeiliaid ar Adroddiad y Farchnad Gyfathrebu yn y cyfarfod. Amlygodd Rhodri Williams (Cyfarwyddwr Cymru, Ofcom) a Jane Rumble (Cyfarwyddwr Gwybodaeth y Farchnad, Ofcom) rai o ganfyddiadau allweddol adroddiadau y DU a Chymru. Cafwyd trafodaethau ar dderbyniad ffonau symudol yng Nghymru yn ogystal â diogelwch ar y rhyngrwyd.

 

Cyfarfod 3.

 

Dyddiad y cyfarfod: 24 Tachwedd

 

Yn bresennol: Ofcom - Rhodri Williams, Elinor Williams a Nia Thomas

 

Aelodau’r Cynulliad -  Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Alun Ffred Jones, Janet Haworth, Elin Jones

Ed Hunt - Cyfarwyddwr y Rhaglen – Superfast Cymru (BT)

Alwen Williams  - Cyfarwyddwr BT, Cymru

Nick Vaughan  - Pennaeth Materion Cyhoeddus, Openreach

Cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Pwyllgor Ymgynghorol   Ofcom dros Gymru, Sbectrwm Rhyngrwyd, Cyngor Cynulleidfa Cymru y BBC, Wise Kids

 

Crynodeb o’r materion a drafodwyd:

 

Rhoddodd Alwen Williams gyflwyniad byr a rhoddodd Ed Hunt y wybodaeth ddiweddaraf ar y prosiect Superfast Cymru hyd yma. Cafwyd trafodaeth ar y gwaith o gyflwyno’r prosiect a’r cynlluniau a’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer y rheini sydd yn ardaloedd y 4% olaf o’r prosiect yng Nghymru.


 

  1. Lobïwyr proffesiynol, cyrff gwirfoddol ac elusennau Grŵp wedi cyfarfod â hwy yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

 


 Fforwm Cymunedol Ger-y-Gors             Kids Wise

 40 Wood Crescent
 Casnewydd
 NP10 0AL

         


 

 


 


 

 


Datganiad Ariannol Blynyddol

Rhagfyr 2015

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyfathrebu Digidol

Cadeirydd:  Russell George AC

Ysgrifenyddiaeth: Ofcom (Elinor Williams - Rheolwr Materion Rheoleiddio a Nia Thomas - Ymgynghorydd Materion Rheoleiddio)

Treuliau’r Grŵp.

 

Dim.

£0.00

Costau yr holl nwyddau.

 

Ni phrynwyd nwyddau.

£0.00

Buddion a gafwyd gan y grŵp neu Aelodau unigol gan gyrff allanol.

 

Ni chafwyd dim buddion.

£0.00

Unrhyw gymorth ysgrifenyddiaeth neu gymorth arall.

 

Ni chafwyd cymorth ariannol.

£0.00

Gwasanaethau a ddarperir i’r Grŵp, fel lletygarwch.

 

Talwyd am yr holl luniaeth gan Ofcom.

 

Dyddiad

Disgrifiad ac enw’r darparwr

 

CH&CO CATERING LTD

Cost

24 Tachwedd

 

£345.00

29 Medi

 

£430.32

23 Mehefin

 

£195.16

Cyfanswm y costau

 

£970.48